Mae CPD Tref Aberystwyth yn cynnig cyfle i gefnogwyr deithio mewn steil i Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG gyntaf erioed y clwb gyda phecyn arbennig o fws, tocyn, a swfenîr!
Am £24 yn unig, gall cefnogwyr sicrhau trafnidiaeth i'r Drenewydd ac yn ôl, tocyn gêm, a llyfryn coffaol arbennig Rownd Derfynol y Cwpan – gan sicrhau nad ydynt yn colli eiliad o'r achlysur hanesyddol hwn.

I wneud y profiad hyd yn oed yn well, gall cefnogwyr ychwanegu sgarff neu het clwb at eu harcheb a derbyn gostyngiad awtomatig o £3 yr eitem wrth archebu.*
Bydd amseroedd gadael a dychwelyd bysiau yn cael eu cadarnhau erbyn dydd Sadwrn, 22 Chwefror.
Sut i Archebu
Gall cefnogwyr sicrhau eu pecyn ar-lein nawr: ➡️ Archebwch Nawr
Noson Hanesyddol i CPD Tref Aberystwyth
Cynhelir Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG ar Nos Gwener, 28 Chwefror 2025, ar Barc Latham, Y Drenewydd (cic gyntaf 7:45pm). Bydd y Gwyrdd a Duon yn herio Y Seintiau Newydd (TNS) wrth iddyn nhw geisio hawlio eu teitl Cwpan Nathaniel MG cyntaf erioed.
Gyda chefnogaeth deithiol gref, bydd y tîm angen y Fyddin Werdd y tu ôl iddynt i godi'r cwpan!
Am fanylion pellach, gweler isod.
コメント