top of page
ATFC Logo Llawn.png
KIT ENGHRAIFFT HYSBYSEB.gif

RHAGOLWG: TREF ABERYSTWYTH V TREF Y FFLINT

Mae’n nos Wener arall o dan y goleuadau ar Goedlan y Parc Prifysgol Aberystwyth, wrth i Dref y Fflint ymweld â Cheredigion ar gyfer gêm gartref olaf ond un Tref Aber y tymor.

Er i golled y penwythnos diwethaf i Lansawel gadarnhau y bydd Aber yn chwarae yn Haen 2 y tymor nesaf, mae tair gêm i’w chwarae o hyd i’r ymgyrch hon a bydd y Du a’r Gwyrddion yn awyddus i orffen y tymor gyda’u pennau yn uchel wrth i’r clwb adael Uwch Gynghrair Cymru ar ôl 33 mlynedd wych.

 

Mae angen un fuddugoliaeth arall ar yr ymwelwyr i fod yn sicr o’u lle yn haen uchaf y tymor nesaf, ar ôl casglu 33 pwynt o 29 gêm hyd yn hyn y tymor hwn, yn eu hymgyrch gyntaf yn ôl yn Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn dyrchafiad y llynedd.

 

Gydag 8 gôl hyd yn hyn, Elliot Reeves yw’r chwaraewr i wylio i’r Fflint y tymor hwn, yn enwedig ers i Florian Yonsian adael ym mis Rhagfyr ar ôl rhwydo 7 gôl ei hun. Mae cyn fenthyciwr Tref Aber, Harry Owen, hefyd wedi cyfrannu 5, gan gynnwys hat-tric yn erbyn Llansawel ym mis Chwefror.

 

Nid Owen yw’r unig gyn-Seasider yng ngharfan Lee Fowler y tymor hwn – roedd y chwaraewr canol cae Ben Wynne yn chwaraewr poblogaidd yn ystod ei gyfnod byr yng Ngheredigion nôl yn 2022 cyn gadael am Gaernarfon yr haf hwnnw.

 

Mae’r Fflint wedi ennill pob un o’r tair gêm rhwng y ddau dîm hyd yn hyn y tymor hwn, ond y tro diwethaf iddyn nhw ymweld â Choedlan y Parc o dan oleuadau nos Wener, fe sicrhaodd gôl arbennig gan Jonathan Evans y tri phwynt nôl yn 2023. Bydd y Fyddin Werdd yn gobeithio am debyg y tro hwn!

 

Mae tocynnau diwrnod gêm ar gael ag arian parod neu gerdyn wrth y gatiau. Mae prisiau mynediad ar Goedlan Parc Prifysgol Aberystwyth ar gyfer 2024/5 yn £8 i oedolion, £5 ar gyfer consesiynau, £2 i blant oed Ysgol Uwchradd, ac mae Ysgol Gynradd ac iau am ddim.



Comments


  • Instagram
  • X
  • Facebook
  • YouTube
bottom of page