top of page
ATFC Logo Llawn.png
KIT ENGHRAIFFT HYSBYSEB.gif

RHAGOLWG GÊM: TREF ABERYSTWYTH VS Y SEINTIAU NEWYDD - ROWND DERFYNOL CWPAN NATHANIEL MG

Mae’r diwrnod mawr bron yma wrth i Aberystwyth herio Y Seintiau Newydd ar Barc Latham Y Drenewydd yfory yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.

 

Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Aber yn rownd derfynol cwpan cenedlaethol ers 2018, pan gyfarfu’r Du a’r Gwyrddion â Nomadiaid Cei Conna yn Rownd Derfynol Cwpan Cymru mewn gêm a chwaraewyd hefyd ar Barc Latham.

Nid yw Antonio Corbisiero yn ddieithr i rowndiau terfynol cwpan yn y Du a Gwyrdd chwaith; roedd yn rhan o'r garfan yn 2014 buodd golli i'n gwrthwynebwyr nos yfory yn Rownd Derfynol Cwpan Cymru. Bu Bari Morgan hefyd yn gapten ar y clwb yn Rownd Derfynol Cwpan Cymru 2009 ac roedd yn rhan o’r garfan ar gyfer rownd derfynol 2014, felly mae digon o brofiad o fewn yr ystafell newid!

 

Does dim sialens fwy na’r Seintiau Newydd, ac mae tîm Craig Harrison ar rediad gwych yn dod i mewn i’r gêm hon ar ôl sicrhau 10 buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth. Maen nhw wedi codi'r tlws hwn 10 gwaith yn flaenorol ac yn edrych i amddiffyn y tlws ar ôl curo Abertawe yn rownd derfynol y tymor diwethaf.

 

Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Aber yn rownd derfynol y gystadleuaeth hon ers ei sefydlu yn 1992, er i Aber gyrraedd y rownd gynderfynol ar chwe achlysur blaenorol.

 

I gyrraedd y rownd derfynol, mae Tref Aber wedi trechu Bae Colwyn, Llandudno, Cei Connah ac yna Caerdydd mewn Rownd Gynderfynol cofiadwy a benderfynwyd ar giciau o'r smotyn. Curodd Y Seintiau Newydd y Fflint, Airbus, Y Bala a Thref y Barri i gyrraedd y cam hwn.

 

Enillodd Y Seintiau Newydd y ddau gyfarfod cynghrair yn gynharach yn y tymor; yn fuddugol 4-2 ar Goedlan y Parc Prifysgol Aberystwyth ym mis Hydref ar ôl buddugoliaeth o 2-0 ym mis Medi yn Neuadd y Parc, ond mae gan Aber hanes o gynhyrfu’r ods yn erbyn y gwrthwynebwyr yma ambell waith!

 

Mae’n addas y bydd Tref Aber yn chwarae mewn rownd derfynol cwpan cenedlaethol yn 2025 gan fod eleni yn nodi 125 mlynedd ers buddugoliaeth y clwb yng Nghwpan Cymru yn 1900; buddugoliaeth 3-0 dros y Derwyddon a chwaraewyd, gan siawns, yn Y Drenewydd.

 

A all tîm eleni efelychu chwedlau'r gorffennol a chodi'r tlws? Does dim rhaid i ni aros yn hir i gael gwybod!



Comments


  • Instagram
  • X
  • Facebook
  • YouTube
bottom of page