top of page
ATFC Logo Llawn.png
KIT ENGHRAIFFT HYSBYSEB.gif

RHAGOLWG GÊM: TREF ABERYSTWYTH VS Y DRENEWYDD

Croesewir Y Robiniaid i Goedlan y Parc dydd Sadwrn yma ar gyfer gem ddarbi ollbwysig o flaen camerâu Sgorio.



Mae'r timau wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn âg un buddugoliaeth yr un. Dechreuodd y tymor 2024/25 JD Cymru Premier ar Barc Latham wrth i Dref Aber gael eu curo’n dda ar y diwrnod gan sgôr o 4-1 – er i Jonathan Evans roi Tref Aber ar y blaen mymryn cyn hanner amser. Goliau gan Oswell x2, Lock a Roberts seliodd y fuddugoliaeth i'r tîm cartref ym mis Awst.


Ymlaen i Dachwedd, a'r Gwyrdd a Duon daeth i’r brig diolch i gôl gynnar gan Niall Flint cyn i Rico Patterson hyrddio cic rydd syfrdanol i’r gornel uchaf i danio Eisteddle Dias! Cafodd Josh Lock un yn ôl hanner ffordd trwy’r ail hanner, ond seliodd Jonathan Evans bethau wedi 83 munud i sicrhau buddugoliaeth Du a Gwyrdd.


Daw’r Robiniaid i'r gêm ar rediad gwael iawn, ar ôl ennill ond unwaith o’u 18 gêm gynghrair ddiwethaf – fodd bynnag, wedi cipio dwy gêm gyfartal hyd yma yng Ngham 2 yn erbyn Llansawel a’r Barri.


Ni fydd Josh Lock yn parhau â’i dueddiad i sgorio yn erbyn y Du a’r Gwyrddion y tro yma, ar ôl iddo ddychwelyd i’w rhiant-glwb TNS a’i fenthyg i Gaernarfon fis diwethaf. Mae triawd profiadol y Robiniaid o Jason Oswell, Aaron Williams, a Zeli Ismael yn sicr o fod yn rhai i gadw llygad arnyn nhw fel erioed.


Mae Tref Aber yn dal wrth droed y tabl, ond pedwar pwynt yn unig sy'n gwahanu'r timau ar hyn o bryd lle mae pob gêm ond yn cyfle arall i droi'r llanw o blaid y Du a'r Gwyrddion… welwn ni chi yno!




コメント


  • Instagram
  • X
  • Facebook
  • YouTube
bottom of page