top of page
ATFC Logo Llawn.png
KIT ENGHRAIFFT HYSBYSEB.gif

GWEFAN NEWYDD AR GYFER CLWB PÊL-DROED TREF ABERYSTWYTH

Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth wrth ei fodd i gyhoeddi lansiad ei wefan newydd sbon, sydd wedi’i dylunio i gyfoethogi’r profiad i gefnogwyr, noddwyr, a’r gymuned ehangach. Mae ein platfform newydd a chwbl ddwyieithog yn dod â’r newyddion diweddaraf am y clwb, gemau, a chanlyniadau ynghyd tra’n cyflwyno nodweddion arloesol megis gwerthu tocynnau ar-lein, aelodaeth clwb, pwyntiau teyrngarwch, a chyfleoedd hysbysebu digidol ehangach.



Yn gyrru’r prosiect hwn mae Rheolwr Masnachol CPD Tref Aber, Damian Burgess, sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr y clwb a'i gwirfoddolwyr dros y misoedd diwethaf i ddod â’r weledigaeth yn fyw. Gwnaethpwyd rôl y Rheolwr Masnachol yn bosibl oherwydd cyllid gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i gefnogi clybiau o fewn cynghrair y JD Cymru Premier.

"Mae gennym ni nawr y gallu i werthu tocynnau ar-lein, cyflwyno aelodaeth clwb, a hyd yn oed greu fforwm cefnogwyr"

Wrth siarad am y lansiad, dywedodd Damian:

"Mae'n wych gweld y wefan newydd yn fyw o'r diwedd ar ôl misoedd o ddatblygu. Yn fy sgyrsiau cynnar gyda chefnogwyr a noddwyr, daeth yn amlwg bod angen adnewyddiad digidol. Bellach mae gennym y gallu i werthu tocynnau ar-lein, cyflwyno aelodaeth clwb, a hyd yn oed greu fforwm cefnogwyr - rhywbeth sydd wedi bod ar goll. Yn ogystal, mae'r platfform newydd hwn yn darparu mwy o gyfleoedd masnachol i'n noddwyr trwy hysbysebu digidol."


I gefnogwyr, mae'r wefan yn drawsnewidiol i ddarparu gwybodaeth glir a chyfredol am gemau a gweithgareddau clwb sydd i ddod.


Parhaodd Damian:

"Mae'r wefan newydd yn caniatáu i ni hyrwyddo nid yn unig ein timau dynion a merched ond hefyd ein timau datblygu, anabledd, ac iau - gan sicrhau bod pob agwedd o CPD Tref Aberystwyth yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i'r clwb, ac ni allaf aros i weld y cefnogwyr yn ymgysylltu â'r platfform ac yn cofrestru ar gyfer ein cynllun aelodaeth newydd."



Mae'r wefan newydd yn galluogi'r clwb i ymgysylltu'n well â'i noddwyr, sy'n rhan hanfodol o gynaliadwyedd CPD Tref Aber.


"Noddwyr yw asgwrn cefn y clwb hwn, a gyda'n gofod hysbysebu digidol, gallwn nawr gynnig mwy o welededd iddynt tra hefyd yn denu partneriaid newydd. Mae ein hopsiynau hysbysebu misol hyblyg yn golygu y gall hyd yn oed busnesau llai bellach bartneru â ni. Mae adborth gan noddwyr presennol wedi bod yn hynod gadarnhaol, a gall partneriaid newydd nawr weld gweledigaeth fasnachol glir ar gyfer y clwb oddi ar y cae."


Dywedodd Cadeirydd y Clwb, Donald Kane:

“Rydym wrth ein bodd yn lansio ein gwefan newydd a chwbl ddwyieithog ac yn gyffrous iawn am y cyfleoedd y gall eu cyflwyno i ni nawr ac yn y dyfodol.


Mae’n gam cyntaf hollbwysig i broffesiynoli cynnwys ac atyniad y clwb i gefnogwyr a noddwyr i'n rhoi yn y sefyllfa gryfaf i barhau i adeiladu ar gyfer y dyfodol. Hoffem ddiolch i Damian am ei waith yn adeiladu’r wefan ac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am eu cefnogaeth ariannol wrth ddarparu rôl Rheolwr Masnachol.”


Bydd y clwb yn parhau i ychwanegu cynnwys at y wefan yn yr wythnosau nesaf ac anogir cefnogwyr i gadw llygad am fwy o newyddion cyffrous a hyrwyddiadau yn fuan!

Σχόλια


  • Instagram
  • X
  • Facebook
  • YouTube
bottom of page