Wrth i raglen y gêm fynd i'r wasg cawsom y newyddion trist am farwolaeth Geraint Jenkins. Yn ogystal â bod yn un o gewri’r byd academaidd yma yng Nghymru, roedd Geraint yn un o sêr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn ystod cyfnod disglair iawn i’r Clwb.

Chwaraeodd Geraint gyfanswm o 65 gêm i un ar ddeg cyntaf Black & Green o 1963 i 1973, gan sgorio 20 gôl yn y broses. Fel blaenwr 17 oed yn ystod tymor 1963-64, rhwydodd hat-tric ym muddugoliaeth y clwb o 6-2 dros Garw Welfare ym 4edd Rownd Cwpan Amatur Cymru.
Bydd teyrnged lawn iddo yn y rhaglen nesaf.
Comentarios