DIWEDDARIAD CLWB: AILDDATBLYGU STADIWM COEDLAN Y PARC PRIFYSGOL ABERYSTWYTH
- media3876
- 6 days ago
- 2 min read
Mae’n bleser gan Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth gadarnhau cyflwyniad cais cynllunio llawn i Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer ailddatblygu Stadiwm Coedlan y Parc Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r cais yn dilyn dros 18 mis o waith manwl y tu ôl i’r llenni i greu uwchgynllun cynhwysfawr ar gyfer dyfodol ein stadiwm hanesyddol a phoblogaidd. Mae’r Clwb wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol drwy gydol yr amser, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a chynhaliodd Ymgynghoriad Cyn-Ymgeisio 28 diwrnod ym mis Chwefror 2025 cyn y cyflwyniad cynllunio ffurfiol i Gyngor Sir Ceredigion yr wythnos hon (dydd Mercher 16 Ebrill).
Mae’r Clwb wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden o’r safon uchaf ar gyfer y gymuned leol a rhanbarth ehangach Canolbarth Cymru, ac mae’n hyderus bod yr ymdrechion helaeth a’r ymrwymiadau ariannol a wnaed hyd at y pwynt hwn yn amlygu uchelgeisiau’r Clwb.
Mae’r uwchgynllun yn cynnwys adeilad deulawr a hanner newydd sy’n ymestyn o’r gantri presennol i gornel Gorsaf yr Heddlu, gan ddarparu ystafelloedd newid newydd i chwaraewyr a swyddogion gwrywaidd/benywaidd o safon UEFA, ystafell cymorth cyntaf, cegin, clwb/bar ac ystafelloedd cymunedol/digwyddiadau gyda golygfeydd panoramig o ochr y cae, ystafell gyfarfod, teras to a bar, a thros 100 o seddi dan do i wylwyr.
Yn cael eu darparu mewn mannau eraill mae ystafelloedd newid chwaraewyr eilaidd, stand newydd â 310 sedd, gorchuddion to i'r deras sefyll a'r eisteddle agored gyda llwyfan gwylwyr anabl wedi'i ailadeiladu, gwelliannau i hygyrchedd trwy'r stadiwm cyfan, ac adeilad newydd deulawr i'r brif fynedfa sy'n darparu cyfleusterau cegin eilaidd a 1200 troedfedd sgwâr o ofod busnes / swyddfa.
Gellir gweld y gyfres lawn o gynlluniau a dogfennau ategol trwy'r ddolen ganlynol:

Fel rhan o’r cais cynllunio, mae proses ymgynghori bellach ar y gweill gan Gyngor Sir Ceredigion i ymgyngoreion statudol a’r cyhoedd yn gyffredinol cyn gwneud argymhelliad i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu am benderfyniad.
Bydd y Clwb yn cadw ein cefnogwyr Du a Gwyrdd ffyddlon o hynt y cais maes o law. Diolch am eich cefnogaeth barhaus!
Comments