Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth wrth ei fodd i gyflwyno ei gynllun aelodaeth newydd sbon, a lansiwyd ar y cyd â gwefan newydd y clwb. Mae'r fenter yn caniatáu i gefnogwyr y Du a Gwyrdd dangos eu cefnogaeth ar y cae ac oddi arno, gan ennill pwyntiau teyrngarwch am bryniannau a wneir gyda'r clwb. Gellir defnyddio pwyntiau yn Siop y Clwb neu ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol i adio gwerth i gefnogwyr am eu hymrwymiad!
![](https://static.wixstatic.com/media/3de86a_8626d7edc4014f2bb82f08cd99d25c3e~mv2.png/v1/fill/w_980,h_822,al_c,q_90,usm_0.66_1.00_0.01,enc_auto/3de86a_8626d7edc4014f2bb82f08cd99d25c3e~mv2.png)
Mae Aelodaeth Ymladd i Oroesi bellach yn agored i bob cefnogwr, a bydd yn para tan ddiwedd y tymor JD Cymru Premier 2024/25. Am ond £10, bydd aelodau yn cael mynediad am bris gostyngol i'r holl gemau cartref sy'n weddill ar gyfer timau'r dynion a'r merched wrth iddynt ymdrechu am orffeniadau cryf yn eu hadrannau priodol.
Dywedodd Rheolwr Masnachol Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Damian Burgess :
“Mae’r aelodaeth newydd yn gam enfawr ymlaen i’r clwb wrth i ni anelu at gryfhau ymgysylltiad â chefnogwyr, yn hen ac ifanc. Gobeithiwn y bydd y cynllun hwn yn boblogaidd gyda chefnogwyr ein timau dynion a merched yn y clwb.
Rydym eisoes wedi gweld pobl yn ymuno ac yn edrych ymlaen at groesawu wynebau newydd i Goedlan y Parc yn y misoedd nesaf i brofi'r awyrgylch ar ddiwrnod gêm.”
Mae'r Aelodaeth Ymladd i Oroesi ar gael i'w phrynu nawr. Sicrhewch eich un chi heddiw drwy fynd i:👉 https://www.atfc.org.uk/fight-for-survival
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r clwb drwy damian.burgess@atfc.org.uk neu ewch i www.atfc.org.uk
Dysgwch fwy am y gemau nesaf yn Stadiwm Coedlan y Parc Prifysgol Aberystwyth isod!
Comentarios