CLWB YN FALCH O DDERBYN TRWYDDED HAEN CYNTAF
- media3876
- Apr 8
- 1 min read
Mae CPD Tref Aberystwyth yn falch iawn o gadarnhau derbyniad Trwydded Haen Cyntaf gan Gorff Cam Cyntaf CBDC brynhawn dydd Mawrth.

Er gwaethaf cwymp ein Tîm Cyntaf Dynion, mae trwydded Haen Cyntaf yn rhagofyniad i gystadlu yn nhymor 2025/26 y Cymru Premier ac asesir Clybiau ar y meini prawf canlynol:
Chwaraeon: Ieuenctid a Hyfforddi
Isadeiledd
Cyfreithiol
Personél a Gweinyddiaeth
Ariannol
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Pêl-droed
Methodd y Clwb â chyflawni’r Drwydded UEFA sydd ei hangen i gystadlu mewn Cystadlaethau Ewropeaidd oherwydd nad oes ganddo ar hyn o bryd dri Hyfforddwr Trwydded A UEFA yn gyfrifol am grwpiau oedran yr Academi, ond rhagwelwyd hyn ac mae Cyfarwyddwyr y Clwb yn ystyried ei fod yn gyflawniad mawr gan Darren Thomas a’r holl Hyfforddwyr sy’n ymwneud â’r Academi i fod wedi cyrraedd gofynion llym Haen Un er gwaethaf y ffaith nad ydynt wedi’u hariannu’n llwyr. Byddwn yn mynd i'r afael â'r diffyg hwn mewn pryd ar gyfer ceisiadau am drwydded y tymor nesaf.
Dywedodd Swyddog Trwyddedu CPD Tref Aberystwyth Thomas Crockett:
“Mae wedi bod yn dymor heriol ar y cae, fodd bynnag mae’n wych derbyn cydnabyddiaeth swyddogol fod gennym oddi ar y cae y sylfeini angenrheidiol ar gyfer dychwelyd yn gyflym i’r haen uchaf.
“Hoffwn ddiolch i Lucy Jones a Dr Dafydd Edwards am eu gwaith ar y brofion meddygol y chwaraewyr, Jimmy Edwards am gydlynu a chyflawni gwaith seilwaith hollbwysig o fewn Coedlan y Parc, a Tomos Roberts am lawer iawn o waith caled yn paratoi ei set gyntaf erioed o Gyfrifon Clwb.”
Comments