ADRODDIAD GÊM: TREF ABERYSTWYTH 1-2 TREF Y FFLINT
- media3876
- 3 days ago
- 2 min read
Disgynnodd y Du a’r Gwyrddion unwaith eto ar ochr anghywir gêm dynn ar nos Wener, wrth i goliau gan Ben Wynne (35 munud) ac Elliott Reeves (65 munud) sicrhau buddugoliaeth i dîm Sir y Fflint, er gwaethaf cic gosb gan Niall Flint wedi 87 munud mewn ymateb.

Cychwynnodd Aber, sydd eisoes wedi disgyn, yn yr hwyliau i sicrhau eu bod yn gadael y gynghrair ar nodyn uchel, a nhw oedd yn dominyddu’r camau cynnar yn llwyr. Foliiodd Iwan Lewis yn llydan, yna cychwynnodd Jonny Evans i danio ei hun. Cafodd foli arall gan Lewis ei chyffwrdd gan Jack Flint ar y postyn a’r trawst ac yn y pen arall fe gafodd ymdrech Reeves ei gwthio’n llydan gan Dave Jones. Yna perfformiodd Flint wyrthiau i wadu Darlington, Evans a Sharif yn yr un symudiad, ac yn ddiweddarach gwadodd dinc troed chwith gan Niall Flint. Arbedwyd ymdrech isel arall gan Lewis wedi symudiad braf, ond rhywsut cyrhaeddodd Aber yr hanner awr yn ddi-sgor.
Serch hynny, yn fuan llwyddodd Ben Wynne ymdrechu'n isel o’r ochr dde a chusanodd ei ergyd oddi ar y postyn pellaf ac yn erbyn rhediad y chwarae roedd Fflint ar y blaen. Trodd y gôl y gêm ar ei phen, ac yn sydyn roedd y gwesteiwyr yn cael trafferth. Croesodd Reeves i Joshua Jones ergydio drosodd o safle gwych, penliniodd Harry Owen heibio’r postyn, yna penio yn erbyn yr un postyn, a rhedodd Jake Phillips saith deg llath i lawr y dde yn unig i chwalu’r bêl oddi ar y trawst, ac roedd gwyr Antonio Corbisiero gôl i lawr ar yr egwyl.
Er i Wynne gyffwrdd heibio’r postyn toc wedi’r ail ddechrau, parhaodd y Du a’r Gwyrddion i chwarae pêl-droed braf, er bod cyfleoedd yn anoddach i’w hennill – ac yn wir, fe ddyblodd yr ymwelwyr eu mantaus yn glinigol wrth dorri i ffwrdd a gorffennodd Reeves gyda foli isel gyda phum munud ar hugain i fynd. Yn ddiweddarach daeth Aber gan i Sharif gosod Calum Huxley gyda ergyd cafodd ei flocio a Lewis yn saethu'n llydan, ond yna gwnaeth Dave Jones arbediad dwbl gwych i wadu Reeves, a lobiodd drosodd hefyd. Anfonodd Cuba Cline foli isel heibio postyn Flint, yna ychydig cyn y diwedd cafodd Abdi Sharif ei faeddu yn y bocs gan Luke Mariette, ac anfonodd Niall Flint y gic gosb i'r gornel isel yn wych am ei bumed gôl gynghrair o’r tymor. Pwysodd y gwesteiwyr mewn amser anafiadau gyda cic rydd hwyr o'r ochr chwith cafodd ei gwrthyrru gan warchodwr cefn y Fflint, a sicrhaodd yr ymwelwyr fuddugoliaeth mewn gêm dynn y byddai cefnogwyr y Gwyrdd a Duon yn dweud ddylai fod wedi bod yn gêm gyfartal.
Ar ddiwedd tymor anodd dros ben yn 2024/25, mae gan Tref ddwy gêm yn weddill, a daw eu dyddiad nesaf wythnos ar ddydd Sadwrn, Ebrill 12fed, i ffwrdd i’r Drenewydd gyda chic gyntaf am 12.45pm – yn fyw ar Sgorio. Byddwn ni yno!
Comments